I wneud hyn, rydym yn darparu amrywiaeth eang o ofal a chymorth yn ein hosbis ym Mro Morgannwg, yng nghartrefi’r teuluoedd ac yn eu cymunedau.
Gyda’n gilydd, rydym yn dîm arbennig iawn sy’n creu ac yn coleddu oes o atgofion ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n byw bywydau byr, a’u teuluoedd.
Mae hosbis Tŷ Hafan wedi ei lleoli ym mhentref Sili ym Mro Morgannwg.
Y tu mewn i’r adeilad, ac yn y gerddi hardd, byddwch yn aml yn clywed plant yn gwichian chwerthin wrth chwarae gyda’i gilydd a mwynhau amser gyda’u teuluoedd ac aelodau o’r staff.
Mae ein hosbis, a gynlluniwyd yn bwrpasol gan arbenigwyr, hefyd yn cynnwys llawer o fannau preifat i deuluoedd, fel bod plant, rhieni, a brodyr a chwiorydd yn gallu ymlacio a mwynhau amser tawel gyda’i gilydd neu ar eu pennau eu hunain.
share