Mae’n wych gweld plant a phobl ifanc yn gwneud ymdrech i helpu’r plant a’r bobl ifanc sy’n byw bywydau byr y mae Tŷ Hafan yn eu cefnogi. Beth am ofyn i’ch ysgol am help i godi arian?
Gall arbenigwyr codi arian Tŷ Hafan eich helpu mewn amrywiaeth eang o ffyrdd i wneud eich digwyddiad codi arian yn llwyddiant mawr. Cysylltwch â’n tîm Codi Arian mewn Busnesau ac yn y Gymuned ar 029 2053 2199, anfonwch e-bost at askfundraising@tyhafan.org neu cysylltwch â ni trwy ddefnyddio einffurflen gysylltu.
Mae gennym becyn cymorth codi arian gwych sy’n cynnwys syniadau codi arian a chanllaw cam wrth gam i drefnu digwyddiad codi arian gan sicrhau ei fod yn yn ddiogel ac yn gyfreithiol.
Y ffordd hawsaf i deulu, ffrindiau a chydweithwyr gefnogi eich digwyddiad codi arian yw trwy gyfrannu ar-lein.
I sefydlu tudalen godi arian ar gyfer eich digwyddiad, y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw mynd i JustGiving.
Croesawu Tŷ Hafan i’ch ysgol
Os hoffech drefnu bod rhywun yn cyflwyno sgwrs am Tŷ Hafan yn eich ysgol, llenwch ein ffurflen gysylltu ar-lein..
share