Gallwn helpu eich plentyn i gyfathrebu drwy dechnegau arbenigol sy’n defnyddio chwarae, cerddoriaeth, dŵr, cyfleusterau amlsynnwyr a thechnoleg gwybodaeth.
“Wrth weld Jacob yn chwerthin pan oedd yn hedfan drwy’r awyr ar siglen, fe sylweddolon ni gymaint o brofiadau nad oedd e wedi cael cyfle i’w mwynhau. Roedd ein nerfau ni’n rhacs, ond roedd e wrth ei fodd.”
Sally
Mae’r dulliau hyn nid yn unig yn llawer o sbort, ond maen nhw hefyd yn ysgogi eich plentyn a gallant fod yn llesol iawn i’w ddatblygiad.
Mae gan bob plentyn hawl i chwarae. Gall ein tîm ddefnyddio offer a thechnegau arbenigol i helpu eich plentyn benderfynu sut orau i ymgysylltu â’r byd o’i gwmpas.
Mae gan bob plentyn ystod wahanol o alluoedd, a gallwn weithio gyda’ch plentyn ac aelodau o’ch teulu i wneud chwarae yn bosibl, yn hwyl ac yn llawn antur.
“Diolch i Tŷ Hafan, mae Willow wedi datblygu mwy nag yr oeddem erioed wedi’i ddisgwyl. Pan ddywedwyd wrthym ei bod wedi cydio mewn ratl am y tro cyntaf, roedden ni’n ffaelu credu’r peth”
Kelly
“Y pwll hydrotherapi yw’r lle delfrydol i Rhys ymlacio go iawn. Rydyn ni’n aml yn mynd â Carys i nofio, ond dyma’r tro cyntaf i ni allu nofio gyda’n gilydd fel teulu..”
Natalie
“Mae Mason wrth ei fodd gyda therapi cerdd. Mae’n aml yn lleisio a chanu wrth i Diane ganu’r piano neu’r ffliwt. Mae ganddo wên anferth ar ei wyneb, ac mae’n ffordd wych o’i helpu i ymlacio.”
Mam-gu Mason
share