Gall rhannu eich meddyliau a’ch pryderon â phobl eraill sydd yn yr un sefyllfa â chi eich helpu i ymdopi. Gallwn eich rhoi mewn cysylltiad ag amrywiaeth o rwydweithiau cefnogaeth i helpu pob aelod o’r teulu.
Mae’n bosibl y bydd plant a phobl ifanc sy’n byw â chyflwr sy’n byrhau bywyd yn cwestiynu eu sefyllfa ac yn chwilio am gefnogaeth gan eu cyfoedion. Efallai y bydd rhieni’n croesawu cefnogaeth rhieni eraill mewn sefyllfa grŵp, ac mae brodyr a chwiorydd yn aml yn chwilio am gysur gan rai sydd wedi cael profiadau tebyg.
Gallwn gefnogi anghenion unigol eich teulu estynedig, waeth beth yw eich amgylchiadau.
“Mae hi mor cŵl sgwrsio gyda rhywun sy’n gwybod beth y’ch chi’n mynd drwyddo fe. Dwi’n joio hala amser gyda fy ffrind, ac rydyn ni’n dau wrth ein bodd gyda’r ‘den’!”
Rhys, sy’n dioddef o Ddystroffi Cyhyrol Duchenne
“Mae Iwan yn cael mynd i sesiynau chwarae, a chyfarfod â brodyr a chwiorydd eraill. Mae Tŷ Hafan yn trefnu iddo fe gael mynd i nofio, ac weithiau maen nhw’n mynd i’r sinema, sy’n rhywbeth na allwn ni ei wneud. Mae e’n mwynhau’r cwbl ac wedi gwneud ffrindiau da iawn yno.”
Mam, Julie
“Rydw i wedi bod yn aelod o grŵp y tadau ers yr haf diwethaf, ac rydym wedi datblygu’n grŵp clos ond agored iawn. Dydyn ni ddim yn eistedd mewn cylch yn trafod ein teimladau, does dim rhaid i ni. Mae pawb yn deall ei gilydd ac yn cael cysur gan y grŵp.”
Brad, tad a gollodd ei blentyn
share