Os ydych yn weithiwr proffesiynol sy’n ymwneud â phlentyn sydd â chyflwr sy’n byrhau bywyd, a’ch bod yn credu y bydd y plentyn a’i deulu’n elwa o’n cefnogaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Gallwn eich cynghori ynglŷn â rhai ffyrdd effeithiol o drafod Tŷ Hafan gyda theuluoedd, er mwyn iddyn nhw deimlo’n gadarnhaol ynglŷn â’r help y gallwn ei gynnig iddynt.
Gallwn hefyd gynnig arweiniad, os bydd angen, ar sut i siarad gyda theuluoedd am oblygiadau cyflwr eu plentyn. A gyda’n cyngor a’n cefnogaeth diwedd-oes arbenigol, gallwn eich arwain chi a’r teulu drwy agweddau cyfreithiol, moesegol, ymarferol ac emosiynol marwolaeth.
Drwy gydol yr amser y byddwn yn gofalu am blentyn â chyflwr sy’n byrhau ei fywyd a theulu rydych chithau hefyd yn eu cefnogi, ein nod yw cydweithio’n agos â chi fel ein bod yn darparu’r gwasanaeth amlddisgyblaethol mwyaf effeithiol posibl.
I drafod sut y gall Tŷ Hafan weithio gyda chi, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch ein cefnogaeth i weithwyr proffesiynol, ffoniwch ni ar 029 2053 2200 neu anfonwch e-bost i care@tyhafan.org
Gallwch lawrlwytho taflen Tŷ Hafan ar gyfer gweithwyr proffesiynol trwy ddefnyddio’r dolenni isod. Mae croeso i chi wneud copïau o’r daflen a’u dosbarthu i’ch cydweithwyr.
Os hoffech gael copïau caled o’r daflen i’w dosbarthu i weithwyr proffesiynol eraill a allai elwa ar ein cefnogaeth, cysylltwch â ni ar 029 2053 2200 neu care@tyhafan.org
share