Gallwn gynnig cysur pan fyddwch yn yr ysbyty, a mynd gyda chi i gyfarfodydd i drafod anghenion eich plentyn.
Ydych chi’n teimlo eich bod yn gorfod brwydro i gael gafael ar yr offer a’r adnoddau angenrheidiol ar gyfer eich plentyn? Ydych chi’n chwilio am ysgol sy’n diwallu anghenion eich plentyn? Oes arnoch chi angen rhagor o wybodaeth ynglŷn â’ch hawliau a’ch budd-daliadau?
Gall ein harbenigwyr eich rhoi ar y trywydd cywir a’ch cefnogi ar hyd y daith.
“Roedd yn gwbl amlwg nad oedd cynllun tŷ bychan y teulu’n amgylchedd diogel i Jordan, felly buom yn ymgyrchu am dros flwyddyn i ymdrin â’u hanghenion o ran cartref, trwy gydgysylltu â gwasanaethau eraill. Y newydd da yw bod y teulu bellach yn byw mewn byngalo mawr sy’n cynnwys tair ystafell wely a gardd helaeth, ddiogel, ac maen nhw’n hapus iawn.
Mae Mam yn teimlo ei bod hi, o’r diwedd, yn gallu dad-lapio’r gwlân cotwm o gwmpas Jordan a rhoi rhyddid iddo symud, ac mae hyn fel petai wedi rhoi hwb i’w ddatblygiad meddyliol a chorfforol.”
Shirley Valentino, aelod o’r tîm cefnogi teuluoedd yn Tŷ Hafan.
share