Does dim rhaid i weithgaredd codi arian i Dŷ Hafan gynnwys llawer o bobl na golygu llawer o drefnu. Gallech helpu i godi cyllid hanfodol trwy wneud rhywbeth ar eich pen eich hun.
Gall arbenigwyr codi arian Tŷ Hafan eich helpu mewn amryw o ffyrdd i wneud yn siŵr bod eich digwyddiad codi arian yn llwyddiant mawr. Mae rhagor o wybodaeth yn ein hadran Trefnu eich digwyddiad eich hun.
Mae gennym becyn cymorth codi arian gwych hefyd, a hwnnw’n llawn syniadau ar gyfer codi arian a chanllaw cam wrth gam ynglŷn â sut i drefnu digwyddiad codi arian a sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn gyfreithiol.
Pan fyddwch wedi cofrestru ar gyfer eich pecyn cymorth, byddwch yn derbyn adnoddau gwych, gan gynnwys balŵns, posteri a sticeri.
Y ffordd hawsaf i deulu, ffrindiau a chydweithwyr gefnogi eich digwyddiad codi arian yw trwy gyfrannu ar-lein.
I sefydlu tudalen codi arian ar gyfer eich digwyddiad, ewch i Virgin Money Giving neu JustGiving.
share