Os ydych yn priodi, beth am ystyried codi arian i Dŷ Hafan ar eich diwrnod arbennig trwy ddefnyddio cardiau ffafr priodas, gwahoddiadau ac amlenni rhodd?
Gallwn gydweithio’n agos â chi i gynllunio sut y gallwch wneud rhywbeth gwirioneddol arbennig i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n byw bywydau byr a’u teuluoedd ledled Cymru.
Os ydych yn cynllunio pen-blwydd, pen-blwydd priodas neu fedydd, gallwn ddarparu popeth y bydd arnoch ei angen i godi arian ar gyfer gwasanaethau sy’n newid bywydau yn Nhŷ Hafan.
Mae hyn yn cynnwys blychau a phosteri cyfrannu i’ch helpu â’ch gwaith codi arian.
Neu beth am ofyn i’ch teulu a’ch ffrindiau roi cyfraniad i Dŷ Hafan yn hytrach na phrynu anrheg i chi?
Gallwch sefydlu tudalen Virgin Money Giving neu JustGiving i wneud hyn, neu gasglu rhoddion yn eich digwyddiad a’u hanfon yn uniongyrchol atom ni.
share