Bu farw Ieuan yn yr hosbis ar 23 Ionawr, bum diwrnod ar ôl ei ben-blwydd yn bump oed. Er ei fod yn gyfnod torcalonnus i’r teulu, roedd yn gysur iddyn nhw wybod eu bod wedi gallu ffarwelio ag e yn amgylchedd hardd yr hosbis, gyda ‘Thîm Ieuan’ wrth eu hochr.
Pan oedd Ieuan yn fabi, cafodd niwed i’w ymennydd a achosodd epilepsi, parlys yr ymennydd a dysautonomia, a achosodd iddo golli ei olwg yn ei lygad chwith. Roedd gan Ieuan anghenion meddygol cymhleth iawn, a phan oedd yn wyth mis oed daeth Cath a Tracey, ill dwy yn nyrsys cofrestredig, yn rhieni maeth iddo.
O’r foment honno ymlaen, cafodd ei bentyrru â chariad, a chael cyfle i fyw bywyd yn llawn chwerthin, atgofion melys a pheth wmbredd o gwtshys.
Cawsant eu hatgyfeirio at Tŷ Hafan bron ar unwaith, ac maen nhw’n disgrifio gofal yr elusen fel “rhyfeddol”.
Dywedodd Tracey: “Mae’r gefnogaeth wedi bod yn aruthrol. Ni all geiriau fyth fynegi dyfnder yr hyn rydym wedi ei gael. Roedd ‘Tîm Ieu’ yn rhyfeddol – pob un ohonyn nhw. Roedd yr hapusrwydd a gawsom, a’r gefnogaeth a roddwyd i ni, yn gwbl anhygoel.”
Ychydig ddyddiau cyn i Ieuan farw, rhoddwyd lamp hardd ar ffurf jiráff iddo’n anrheg. Roedd y lamp yn taflu siapiau a gwahanol liwiau ar waliau ei ystafell. Er nad oedd e’n gallu siarad, na symud fawr ddim, roedd Ieuan yn ymateb drwy wenu a lleisio at ei lamp jiráff.
Arhosodd Cath a Tracey yn yr hosbis am ychydig wythnosau’n ychwanegol nes eu bod yn teimlo’n ddigon cryf i fynd yn ôl i’w cartref yng Nghastell-nedd.
“Fe gynhalion ni ddathliad o fywyd Ieu pan oeddem yn yr hosbis. Daeth tua 80 o bobl yno, ac fe gawsom ni de a chacennau – roedd e’n fendigedig. Mae’r gefnogaeth rydym wedi ei chael yn ein profedigaeth wedi bod yn gwbl eithriadol; maen nhw wedi bod yno i ni 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos,” dywedodd Tracey.
Cododd Cath a Tracey £1,000 i Tŷ Hafan drwy roddion a gyfrannwyd yn y dathliad o fywyd Ieuan ac yn ei angladd. Defnyddiwyd peth o’r arian i brynu lampau ar gyfer pob un o ystafelloedd gwely’r plant a’r fflat hunangynhwysol yn yr hosbis.
“Gobeithiwn y bydd y plant a’r bobl ifanc yn mwynhau’r goleuadau gymaint ag y gwnaeth Ieuan. Allwn ni ddim diolch digon i Tŷ Hafan, ac mae hon yn ffordd fechan i ni allu gwneud gwahaniaeth i elusen wirioneddol wych,” meddai Cath.
share