Mae gadael rhodd i Dŷ Hafan yn eich Ewyllys yn syml iawn, ond dylech bob amser ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol gan wrth baratoi eich Ewyllys. Trwy wneud hynny, bydd eich Ewyllys yn gyfreithiol ac yn ddilys.
I ddod o hyd i’ch cyfreithiwr agosaf, awgrymwn eich bod yn defnyddio Cymdeithas y Gyfraith.
Rhan o’ch ystâd – ar ôl i chi ddarparu ar gyfer eich teulu a’ch ffrindiau, gallech adael gweddill eich ystâd i ni. Gelwir hon yn rhodd weddilliol.
Rhodd ariannol – swm penodol o arian yw rhodd ariannol.
Rhodd benodol – gallai’r rhodd fod yn ddarn o emwaith neu unrhyw eitem arall benodol rydych yn ei nodi yn eich Ewyllys.
Rydym yn gwerthfawrogi pob rhodd yn fawr – rhai mawr a bach – a bydd pob punt a dderbynnir yn gwella rhywfaint ar fywydau'r bobl hynny y mae angen ein cymorth arnynt.
Os ydych yn bwriadu gadael rhodd yn eich Ewyllys i Dŷ Hafan, rhaid cynnwys y manylion canlynol:
Tŷ Hafan, Yr hosbis deuluol ar gyfer bywydau ifanc, Heol Hayes, Sili, CF64 5XX
Rhif Elusen Gofrestredig: 1047912
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ynglŷn â gadael rhodd yn eich Ewyllys, cysylltwch â’n Tîm Ewyllysiau neu darllenwch ein cwestiynau cyffredin.
share