home > ein lleoliad
Ewch i’r lôn ar gyfer yr A4050 gan ddilyn arwyddion Maes Awyr Caerdydd a’r Barri. Cymerwch yr A4050 ac ewch yn eich blaen drwy 5 cylchfan fach, gan basio Gwenfô, tafarn y Walston Castle a’r ganolfan arddio ar y dde. Ar ôl Clwb Golff Gwenfô dilynwch y ffordd i’r chwith yn y gylchfan nesaf tuag at y Dociau a Sili i lawr yr A4231 a mynd yn eich blaen at y gylchfan sydd yn ymyl McDonalds. Ewch yn syth dros y gylchfan ar hyd Sully Moors Road. Wrth y gylchfan nesaf trowch i’r dde i Heol Hayes. Mae mynediad yr Hosbis ryw 800 metr ar yr ochr chwith.
share