Our local shops raise vital funds to help us provide unique care and support to life-limited children, young people and their families.
More about our shopsChoose from a selection of caring gifts, from just £10, that will enable life-limited children, young people and their families make the most of the time they have together.
View our collectionhome > cefnogi ni > cyfrannu > cymorth rhodd
Os ydych yn drethdalwr yn y DU, ac yn cytuno i’r broses Cymorth Rhodd, bydd Tŷ Hafan yn derbyn 25% ar ben eich rhodd.
Er enghraifft, os ydych yn drethdalwr ac yn cyfrannu £100 mewn blwyddyn dreth benodol, gall Tŷ Hafan hawlio £25 o Gymorth Rhodd yn ôl gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi heb i hynny gostio dim mwy i chi. Mae hyn yn cynyddu gwerth eich rhodd i £125.
Os ydych yn cytuno i Gymorth Rhodd ar y swm rydych yn ei roi, byddwn hefyd yn gallu hawlio Cymorth Rhodd ar unrhyw roddion eraill a wnaethoch yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf.
Rwyf yn drethdalwr yn y DU. Cewch ymdrin â’r holl roddion rwyf yn eu rhoi neu rwyf wedi eu rhoi i Dŷ Hafan dros y pedair blynedd ddiwethaf fel rhoddion Cymorth Rhodd hyd nes i mi eich hysbysu fel arall.
Rwyf yn cadarnhau fy mod yn talu treth incwm a/neu dreth ar enillion cyfalaf am bob blwyddyn dreth (6 Ebrill hyd 5 Ebrill) sydd o leiaf yn gyfartal â’r swm o dreth y mae’r holl elusennau neu Glybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol rwyf yn rhoi arian iddynt yn ei hawlio ar fy rhoddion (25c o bob £1 rwyf yn ei rhoi).
(Nid yw trethi eraill megis TAW a Threth Cyngor yn gymwys.)
share