Mae yna gannoedd o ffyrdd gwych o godi arian i gefnogi gwaith Tŷ Hafan yn newid bywydau.
I’ch rhoi ar ben y ffordd, dyma rai o’n hoff syniadau. Cymerwch olwg arnynt i gael eich ysbrydoli, ac yna mynd ati i gynllunio eich digwyddiad codi arian.
Beth am drefnu diwrnod golff neu gystadleuaeth rygbi, rhedeg hanner marathon neu ras hwyl, cymryd rhan mewn taith gerdded neu daith feiciau? Mae digonedd o lefydd trawiadol lle gallech wneud hyn yng Nghymru.
Beth am gynnal diwrnod gwisg ffansi yn eich ysgol, coleg, gwaith neu grŵp cymunedol i ddathlu diwrnod arbennig yn ystod y flwyddyn? Neu beth am ofyn i bobl roi arian i wisgo dillad anffurfiol am y dydd – ‘onesies’, efallai?
Does dim angen i weithgareddau codi arian fod yn anodd. Gallech gynnal nosweithiau pampro i chi a’ch ffrindiau gan gael hwyl wrth ddefnyddio pecynnau harddu a sba traed, a pheintio’ch ewinedd. A pheidiwch ag anghofio’r siocled!
Beth am gynnal noson berffaith i’r bois: gêm fawr ar y teledu, cyrri cartref, cwrw yn yr oergell, a’r consol gemau wrth law, yn barod i’ch diddanu hyd yr oriau mân.
Os yw eich ysgol neu goleg yn cynnal disgo neu ddawns, beth am droi’r digwyddiad yn gyfle i godi arian i Dŷ Hafan hefyd? Neu beth am ofyn i ffrindiau eich noddi i roi’r gorau i rywbeth rydych wrth eich bodd yn ei wneud – rhoi’r gorau i’ch ffôn symudol am wythnos, efallai?
Siaradwch gydag aelodau grŵp chwarae neu feithrinfa eich plentyn ynglŷn â chynnal digwyddiad i Dŷ Hafan – mae picnic tedi bêr, helfa drysor a pharti gwisg ffansi wedi bod yn syniadau poblogaidd yn y gorffennol.
Gallech droi noson arbennig mewn lleoliad lleol yn gyfle i godi arian. Beth am noson casino, noson rasys, neu ddawns ysblennydd?
Ewch allan i fwynhau’r heulwen a chynnal digwyddiadau codi arian gwych dros yr haf. Beth am farbeciw yn eich cartref, picnic yng nghefn gwlad, neu barti gardd mewn lleoliad crand?
Mae’n hen bryd i chi ddefnyddio’r celloedd llwyd yn eich pen a gwneud rhywbeth gwerth chweil gyda’ch ymennydd! Gallai hynny gynnwys cynnal noson gwis, cystadleuaeth wyddbwyll neu drefnu helfa drysor.
Os ydych yn aelod o gôr lleol, mae trefnu cyngerdd yn ffordd wych o godi arian i Dŷ Hafan. Neu, os nad ydych chi’n fawr o Katherine Jenkins neu Bryn Terfel, beth am gynnal noson garioci neu sioe dalent?
share