Mae’n costio mwy na £4 miliwn bob blwyddyn i Dŷ Hafan ddarparu ein gofal arbenigol unigol a’n gwasanaethau allgymorth ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n byw bywydau byr, a’u teuluoedd.
Oherwydd nad ydym yn rhan o’r gwasanaeth iechyd, yn 2019/20 derbyniodd Tŷ Hafan lai na 10% mewn cyllid statudol tuag at y ffigur hwn.
Ar hyn o bryd, mae angen i Dŷ Hafan a’n cefnogwyr anhygoel godi dros £4.5 miliwn bob blwyddyn er mwyn inni allu parhau â’n gwaith o newid bywydau.
Mae hyn yn llawer i’w ofyn. Ond, gyda’n gilydd, gwyddom y byddwn yn sicr o lwyddo. Mae’n rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei wneud.
Mae Tŷ Hafan yn annibynnol ar y GIG, ac nid oes ganddo unrhyw ddull statudol o warantu cyllid.
Yn 202019/20, derbyniodd Tŷ Hafan £511,937 oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Byrddau Iechyd Lleol. Mae hyn yn cyfateb i 5% o’n hincwm.
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yw’r arolygiaeth a’r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer yr holl ofal iechyd yng Nghymru. Gallwch ddarllen eu hadroddiad ar Dŷ Hafan drwy glicio yma.
share