Cyflyrau sy’n fygythiad i fywyd, lle mae posibilrwydd o dderbyn triniaeth i’w gwella, ond posibilrwydd hefyd na fydd y driniaeth honno’n llwyddo, ac y gall mynediad at wasanaethau gofal lliniarol fod yn angenrheidiol pan nad yw triniaeth yn llwyddo. Ni chynhwysir plant sydd wedi derbyn triniaeth lwyddiannus, na phlant lle mae gwellhad tymor hir i’w weld yn eu cyflwr.
Cyflyrau lle mae marwolaeth cynamserol yn anochel, a lle ceir o bosibl gyfnodau hir o driniaeth ddwys gyda’r bwriad o ymestyn bywyd a galluogi’r claf i gymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd.
Cyflyrau cynyddol na all unrhyw driniaeth eu gwella, a lle mae triniaeth yn lliniarol yn unig ac yn aml yn gallu ymestyn dros nifer o flynyddoedd.
Cyflyrau sy’n ddi-droi’n-ôl ond heb fod yn gynyddol, sy’n achosi anabledd difrifol gan arwain at fod yn fwy tueddol o ddioddef cymhlethdodau iechyd a’r tebygolrwydd o farw cyn amser.
Os oes gennych gwestiwn ynglŷn â’n meini prawf atgyfeirio, mae croeso i chi ein ffonio ar 029 2053 2200 neu anfon e-bost i care@tyhafan.org
share