Mae codi arian gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr yn gallu bod yn llawer o hwyl ac yn rhywbeth sy’n rhoi llawer o foddhad i chi. Gallech ddod at eich gilydd i drefnu un digwyddiad, neu ffurfio grŵp o Ffrindiau Tŷ Hafan sy’n codi arian trwy gydol y flwyddyn.
Gall arbenigwyr codi arian Tŷ Hafan eich helpu mewn amrywiaeth eang o ffyrdd i wneud yn siŵr bod eich digwyddiad codi arian yn llwyddiant mawr. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yn ein hadran Trefnu eich digwyddiad eich hun.
Mae gennym becyn cymorth codi arian gwych sy’n cynnwys syniadau ar gyfer codi arian, ynghyd â chanllaw cam wrth gam ynglŷn â sut i drefnu digwyddiad codi arian a sicrhau ei fod yn ddiogel a chyfreithiol.
Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y pecyn cymorth, byddwch hefyd yn derbyn adnoddau gwych, gan gynnwys balŵns, posteri a sticeri.
Y ffordd hawsaf i deulu, ffrindiau a chydweithwyr gefnogi eich digwyddiad codi arian hyw trwy roi ar-lein.
I sefydlu tudalen codi arian ar gyfer eich digwyddiad, ewch i JustGiving.
share