Mae trefnu digwyddiad codi arian yn y gwaith yn ffordd wych o godi cyllid hanfodol i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n byw bywydau byr a’u teuluoedd, yn ogystal â chynnal gweithgareddau i ddatblygu tîm. Mae’n bosibl y byddai’ch ymdrechion hefyd yn cael cyhoeddusrwydd da yn y cyfryngau.
Gall arbenigwyr codi arian Tŷ Hafan eich helpu mewn amrywiaeth eang o ffyrdd i wneud eich digwyddiad codi arian yn llwyddiant mawr. Cysylltwch â’n tîm Codi Arian mewn Busnesau ac yn y Gymuned ar 029 2053 2199, neu anfonwch e-bost askfundraising@tyhafan.org
Mae gennym becyn cymorth codi arian gwych sy’n cynnwys syniadau codi arian a chanllaw cam wrth gam i drefnu digwyddiad codi arian gan sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn gyfreithiol.
Pan fyddwch wedi cofrestru ar gyfer y pecyn cymorth, byddwch hefyd yn derbyn adnoddau gwych, gan gynnwys balŵns, posteri a sticeri.
Mae gofyn i’ch cwmni gyfrannu arian cyfatebol yn ffordd hawdd o ddyblu cyfanswm yr arian a godwyd gennych. Peidiwch â bod ag ofn gofyn. Byddech yn synnu cymaint o gwmnïau sy’n gwneud hyn.
Gallech annog eich cwmni i ddewis Tŷ Hafan fel ei ‘hoff elusen’ neu ‘elusen y flwyddyn’. Mae gennym lawer o brofiad o ddatblygu partneriaethau corfforaethol sy’n fanteisiol i’r naill ochr a’r llall.
Y ffordd hawsaf i deulu, ffrindiau a chydweithwyr gefnogi eich digwyddiad codi arian yw trwy gyfrannu ar-lein.
I sefydlu tudalen godi arian ar gyfer eich digwyddiad, y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw mynd i JustGiving.
share